
Crwydro’r ardal
Mae ein hencil wledig yn ne Cymru mewn lleoliad cyfleus ryw hanner milltir o'r ffordd fawr, ond eto mae’n teimlo fel byd hollol wahanol yng nghanol y wlad. Mae ein lleoliad yn berffaith os hoffech grwydro gorllewin Cymru. Mae traethau’r arfordir yn y gogledd-orllewin a’r de ond 40 munud i ffwrdd mewn car, ac mae yna dafarndai clyd yn gweini bwyd yn lleol.
Mae tref Llandysul gerllaw a fydd yn darparu ar gyfer eich holl anghenion ymarferol.
Yn agos at Goedwig Brechfa a Mynydd Llanllwni, mae’r fflatiau’n ddelfrydol ar gyfer cerddwyr, beicwyr mynydd, gwylwyr y sêr a theuluoedd sydd am aros yn amgylchedd hardd yr hen fferm hon. O’n bythynnod gwyliau yn Sir Gâr, fe welwch chi dirwedd anhygoel yr Elenydd yn y pellter.
Dewch i ddarganfod ein bythynnod gwyliau yng Nghymru ar gyfer eich antur nesaf.
Sut i ddod o hyd i ni?
Dilynwch yr A485 tua'r gogledd nes i chi ddod i mewn i bentref Gwyddgrug a chwiliwch am gapel bach ar y chwith. Ychydig heibio hwn, mae troad i'r dde.
Cymerwch y troad hwn a dilynwch y ffordd un trac i fyny'r rhiw. Wrth i’r ffordd lefelu, gyrrwch yn araf a chwiliwch am flwch post coch ar yr ochr dde â ‘Berllan’ arno. Yna, dilynwch y trac ar yr ochr dde i lawr at y tŷ a’r ysguboriau, lle mae lle i westeion barcio.
Os ewch chi heibio unrhyw dai ar yr ochr chwith, rydych chi wedi mynd yn rhy bell! Parhewch ar hyd y ffordd am rai cannoedd o fetrau a bydd yno fan lle gallwch chi droi a dilyn y ffordd yn ôl.
Byddwch yn wyliadwrus am unrhyw dyllau yn y ffordd sy'n arwain at y fynedfa!
Teithio mewn cerbyd trydan?
Mae gennym ein pwynt gwefru 'Talu wrth fynd' ein hunain ar y safle ac mae digon o bwyntiau gwefru lleol eraill gerllaw. Edrychwch ar y map byd digarbon neu Zap Map am fanylion eu lleoliadau. Mae rhai wedi'u lleoli'n gyfleus ym Mhencader, Llandysul a Llanybydder. Mae hefyd sawl un yng Nghaerfyrddin, gan gynnwys rhai yn y prif archfarchnadoedd.
Lleoliad gwych i aros ar wyliau lleol yn ne Cymru!
Dyma un o’r lleoedd gorau i aros ger Caerfyrddin, a gallwch ein cyrraedd yn hawdd o draffordd yr M4. Rydyn ni ond hanner milltir oddi ar ffordd yr A485 yng Ngwyddgrug, ger Pencader.
Gallwch ddod o hyd i ni yn Cambrian Cottages, Berllan, Gwyddgrug, Pencader, Sir Gaerfyrddin SA39 9BL neu defnyddiwch ein cyfeiriad what3words: ///songbirds.gilding.camped.

Chwilio am opsiynau teithio cynaliadwy?
Mae cysylltiadau rheilffordd da o bob rhan o’r wlad i Gaerfyrddin ac Aberystwyth gyda bysiau rheolaidd i Wyddgrug.
Chwilio am bethau i'w gwneud yn ne-orllewin Cymru heb gar?
Edrychwch ar y llawlyfr gwerthfawr hwn sy’n cynnwys llawer o wybodaeth am sut i grwydro’r ardal gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae hefyd yn cynnwys manylion lleoedd i ymweld â nhw, teithiau cerdded a llwybrau beicio. Lawrlwythwch y llawlyfr isod i gael mynediad at leoedd y gallwch fynd iddyn nhw ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Cyrraedd ar feic
Mynediad hawdd o Gaerfyrddin sydd ddim ond 12 milltir i ffwrdd
Dim ond 5 milltir o Lwybr 82 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol – Glanrhyd, Llanfihangel-ar-arth.
Cyrraedd ar y trên
Mae gorsafoedd rheilffordd yng Nghaerfyrddin (rheilffyrdd y Gororau a Gorllewin Cymru), Llanwrda (llinell Calon Cymru) ac Aberystwyth (llinell y Cambrian). Mae safle tacsis yng ngorsafoedd Caerfyrddin ac Aberystwyth. Gellir dod o hyd i fanylion trenau ac archebu tocynnau ar thetrainline.
Cyrraedd ar fws
Mae bysiau aml i Wyddgrug. Mae bws T1 yn rhedeg o Gaerfyrddin i Aberystwyth drwy Lanbedr Pont Steffan. Mae'r bws yn cymryd tua 37 munud o Gaerfyrddin ac yn rhedeg tua bob awr o 06.00 tan 19.00 ar wahân i ddydd Sul pan fydd y bysiau'n rhedeg bob dwy awr. Gweler Traveline Cymru am yr amserlen ddiweddaraf.
Mae'r safle bws agosaf tua 650m o'r eiddo ar yr A485 yn Gwyddgrug.
Mae llwybr cyhoeddus yn arwain yn syth at yr eiddo drwy’r caeau neu fel arall gallwch gerdded i fyny’r ffordd fel petaech yn cyrraedd mewn car.
Cyrraedd mewn tacsis
Mae tacsis hygyrch ar gael o:
Chris Cars - Heol Alltycnap, Tre Ioan, Caerfyrddin, SA31 3NE -01267 222002
T A R Cars - 5 Bro-ffion, Caerwedros, Llandysul, SA44 6BP - 01545 560688
Tacsis Blue Wave - Fferm Bryncoch, Idole, Caerfyrddin, SA32 8DE - 07810 341923
Mae gwasanaethau tacsi lleol eraill yn cynnwys:
Pete’s Cabs, Brynlleine, Pentre'r Bryn, Llandysul, SA446JY -07968 578978
Teifi Taxis, Teifi Castle, Cwmann, Llanbedr Pont Steffan, SA48 8JN - 07999 567777
Fastline Cabs, 17 Dôl y Brenin, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AP -07748 586848

Cambrian Cottages
Bythynnod Cambrian, Berllan, Gwyddgrug, Pencader, Sir Gaerfyrddin, Cymru SA39 9BL | stay@cambriancottages.com | 07786 626010
what3words ///songbirds.gilding.camped
© 2025 Cambrian Cottages
Cookies | Privacy | Polisïau | Telerau ac Amodau | CAOYA







