


Y Llofft Wair
Mae'r Llofft Wair yn fwthyn gwyliau dwy ystafell wely o faint sylweddol gyda llosgydd coed ar gyfer hyd at bedwar o westeion. Dyma fwthyn delfrydol ar gyfer gwyliau rhamantus neu ar gyfer teuluoedd a ffrindiau:
Wi-Fi am ddim
Croeso i gŵn
Cegin / ardal fwyta / ardal fyw cynllun agored fawr
Llosgydd coed
Ystafell wely 1 - gwely maint Brenin mwy
Ystafell wely 2 - dau wely bync i oedolion
Ystafell gawod
Gardd gyda lle i eistedd
Pwll tân
Gwyliau cynaliadwy yng nghefn gwlad De Cymru
Yn cuddio yng nghanol Mynyddoedd godidog Cambria yn Sir Gaerfyrddin, mae ein sgubor ecogyfeillgar arobryn yn eich gwahodd i brofi tawelwch a hyfrydwch ardal wledig.
Mae ‘Y Llofft Wair’ wedi ennill gwobrau 'Hunanddarpar Gorau' a 'Chynaliadwyedd' gan Gymdeithas Twristiaeth Sir Gaerfyrddin yn 2024 ac mae’n sicr yn cynnig dihangfa hudol i grwpiau neu wyliau bwthyn rhamantus i 2 berson ar gyfer mwynhau nosweithiau serennog, anturiaethau mynydd, a heddwch cefn gwlad.
Beth am archebu gwyliau rhamantus neu wyliau i grŵp yn Ne Cymru? Dewch i ddarganfod swyn Y Llofft Wair a chreu atgofion bythgofiadwy yn ein bwthyn gwyliau gyda llosgydd coed.
Tu mewn i'r encil
Mae Y Llofft Wair wedi ennill gradd 4* gan Croeso Cymru yn cynnig croeso cynnes i gerddwyr, beicwyr a'u cyfeillion pedair coes. Dyma sgubor Fictoraidd sydd wedi'i hadnewyddu yn gelfydd. Mae ein bwthyn gwyliau moethus sydd ar un lefel yn cyfuno moethusrwydd cyfoes gyda swyn traddodiadol, gan gynnig lle i hyd at bedwar o westeion gyda dwy ystafell wely sydd wedi'u dylunio'n hyfryd.
Cegin a gofod byw
Mae'r gegin llawn offer yn cynnig moethusrwydd a chyfleustra. Mae’n cynnwys hob ‘induction’, ffwrn, oergell, microdon, peiriant golchi llestri, tegell a thostiwr, mae wedi'i pharatoi'n berffaith ar gyfer anturiaethau coginio. Bydd pecyn croeso am aros yn barod ar eich cyfer Gallwch ymlacio ar y soffa foethus, mwynhau prydau wrth y bwrdd bwyd, neu ymlacio o flaen y llosgydd coed, gan ffrydio Freesat neu Disney +, neu fwynhau un o'n gemau bwrdd a ddarperir.
Cyfleusterau gweithio o bell
I’r bobl sydd am gyfuno gwaith ac amser i ymlacio, mae ein bwrdd cegin yn cynnig pwyntiau pŵer cyfleus a Wi-Fi 4G dibynadwy ymhob rhan o’r sgubor. Mae'r rhan fwyaf o rwydweithiau symudol yn cynnig cysylltedd da, ac mae galwadau Wi-Fi / Zoom yn cael eu rheoli'n hawdd o fewn y gofod.
Ystafelloedd gwely ac ymolchi moethus
Dewiswch rhwng gwely maint brenin moethus gyda 2000 o sbringiau a llenwadau naturiol sy’n berffaith ar gyfer gwyliau hamddenol i gyplau, neu welyau bync maint llawn gyda 1000 o sbringiau, sy’n wych ar gyfer plant neu oedolion. Darperir yr holl ddillad gwely, gan sicrhau nosweithiau cyfforddus.
Ymlaciwch wrth fwynhau’r gawod fawr y gallwch gerdded i mewn iddi, lle cewch gyflenwad di ben draw o ddŵr poeth. Mae tywelion o ansawdd uchel a nwyddau ymolchi o’r radd flaenaf wedi'u darparu i chi eu mwynhau.
Cyfeillgar i gŵn
Rydym yn croesawu'n gynnes eich ffrindiau pedair coes i'n bythynnod cyfeillgar i gŵn yn Ne Cymru. Dewch â'ch dillad gwely, tywelion a bowlenni eich hun. Sylwch fod yn rhaid i anifeiliaid anwes aros ar dennyn ac ni chaniateir iddynt fod ar ddodrefn. Mae mannau storio cyfleus ar gyfer esgidiau ac offer, gan gynnwys bachau ac ardal sychu yn yr ysgubor, yn gwneud anturiaethau mwdlyd yn hawdd iawn.
Mannau awyr agored a chrwydro
Camwch i fyd natur o'ch patio a'ch gardd breifat, sy’n cynnwys pwll tân a seddi cyfforddus, perffaith ar gyfer syllu ar y sêr o dan awyr dywyll. Beth am grwydro o fewn pum erw o dir ffrwythlon, sy'n cynnwys nant sy'n llifo'n gyflym, man eistedd tawel ar lan yr afon, a chaeau agored? Bydd beicwyr a cherddwyr yn gwerthfawrogi cyfleusterau ar y safle sy’n cynnwys ardal storio ar gyfer offer, gorsaf golchi beiciau, ac ardal sychu ar gyfer dillad awyr agored.





Cambrian Cottages
Bythynnod Cambrian, Berllan, Gwyddgrug, Pencader, Sir Gaerfyrddin, Cymru SA39 9BL | stay@cambriancottages.com | 07786 626010
what3words ///songbirds.gilding.camped
© 2025 Cambrian Cottages
Cookies | Privacy | Polisïau | Telerau ac Amodau | CAOYA







