high vaulted room with wood burning stove and table and chairs

Y Lofft Stabl

Mae'r Llofft Stabl yn fwthyn gwyliau dwy ystafell wely o faint sylweddol gyda llosgydd coed ar gyfer hyd at bedwar o westeion, sy’n golygu mai dyma yn un o'n bythynnod gwyliau gorau ar gyfer grwpiau:

  • Wi-Fi am ddim

  • Croeso i gŵn

  • Cegin / ardal fwyta / ardal fyw cynllun agored fawr

  • Llosgydd coed

  • Ystafell wely 1 - gwely maint Brenin

  • Ystafell wely 2 - dau wely bync i oedolion

  • Ystafell gawod

  • Gardd gyda lle i eistedd a phwll tân

Bwthyn gwyliau llawn cymeriad yng nghefn gwlad gyda llosgydd coed

Yn cuddio yng nghanol Mynyddoedd godidog Cambria yn Sir Gaerfyrddin, mae ein sgubor eco-gyfeillgar arobryn yn eich gwahodd i brofi tawelwch a hyfrydwch ardal wledig.

Mae ‘Y Llofft Stabl’ wedi ennill gwobrau 'Hunanddarpar Gorau' a 'Chynaliadwyedd' gan Gymdeithas Twristiaeth Sir Gaerfyrddin yn 2024 ac mae’n sicr yn cynnig dihangfa o’ch bywyd bob dydd a chyfle i ailgysylltu â natur, bywyd gwyllt a chyda’ch gilydd.

Ydych chi’n chwilio am Westai yn Skanda Vale? Dewch i ddarganfod swyn Y Llofft Stabl a chreu atgofion bythgofiadwy.

Tu mewn i'r encil

Wedi'i adnewyddu yn gelfydd gyda chyfuniad o swyn traddodiadol a dyluniad modern, mae Y Llofft Stabl yn darparu lle croesawgar i hyd at bedwar o westeion - y bwthyn gwyliau delfrydol ar gyfer grwpiau a gwyliau teulu. Mae'r gegin a'r lolfa cynllun agored yn cynnwys stôf llosgi pren clyd, seddi moethus, ac opsiynau adloniant gan gynnwys Freesat a Disney +. Mae'r gegin ag offer llawn, gyda'i hob ‘induction’, popty a pheiriant golchi llestri, yn gwneud paratoi prydau bwyd yn ddiymdrech. Mae sylw i fanylder, o addurniadau chwaethus i gyfleusterau heb eu hail, yn sicrhau y bydd eich arhosiad yn un hamddenol c arbennig iawn.

Gweithio o bell a chysylltedd

Ydych chi eisiau gweithio o bell? Mae ein cegin yn cynnwys gweithle pwrpasol gyda phwyntiau pŵer a Wi-Fi 4G dibynadwy ledled yr eiddo. Mae'r rhan fwyaf o rwydweithiau symudol yn cynnig cysylltedd da, gan sicrhau cysylltedd are ich cyfer wrth i chi fwynhau'r amgylchedd tawel.

Ystafelloedd gwely ac ymolchi cyfforddus

Dewiswch rhwng gwely maint brenin moethus gyda 2000 o sbringiau a llenwadau naturiol sy’n berffaith ar gyfer gwyiau hamddenol i gyplau, neu welyau bync maint llawn gyda 1000 o sbringiau, sy’n wych ar gyfer plant neu oedolion. Darperir yr holl ddillad gwely, gan sicrhau nosweithiau cyfforddus.

Ymlaciwch wrth fwynhau’r gawod fawr y gallwch gerdded i mewn iddi, lle cewch gyflenwad di ben draw o ddŵr poeth. Mae tywelion o ansawdd uchel a nwyddau ymolchi o’r radd flaenaf wedi'u darparu i chi eu mwynhau

Cyfeillgar i gŵn

Chwilio am fythynnod munud olaf sy'n gyfeillgar i gŵn? Mae croeso i ffrindiau pedair coes! Dewch â'ch dillad gwely, tywelion a bowlenni eich hun. Sylwer: rhaid i anifeiliaid anwes aros ar dennyn ac ni chaniateir iddynt fod ar ddodrefn. Mae mannau storio esgidiau ac offer cyfleus, gan gynnwys bachau ac ardal sychu yn yr ysgubor, yn gwneud anturiaethau mwdlyd yn ddidrafferth iawn.

Mannau awyr agored a chrwydro

Camwch i mewn i fyd natur o'ch patio a'ch gardd breifat, gan edrych dros y dyffryn hardd. Darperir pwll tân a seddi cyfforddus ar eich cyfer yma. Archwiliwch bum erw o dir ffrwythlon, sy'n cynnwys nant sy'n llifo'n gyflym, man eistedd tawel ar lan yr afon a chaeau agored. Mae llwybr cyhoeddus nad yw prin yn cael ei ddefnyddio yn arwain at fynydd Llanllwni a Choedwig Brechfa.

Bydd beicwyr a cherddwyr yn gwerthfawrogi’r cyfleusterau ar y safle fel ardal storio offer, gorsaf golchi beiciau, ac ardal sychu ar gyfer dillad awyr agored.

clean white kitchen units with lighting under the wall cupboards