a large bed with wall lights and colourful cushions and throw

Y Cwt Mochyn

Y Cwt Mochyn yw ein bwthyn cysurus un ystafell wely cyfeillgar i gŵn gyda phwll tân, ar gyfer hyd at ddau o westeion:

  • Wi-Fi am ddim

  • Cyfeillgar i gŵn

  • Cegin / ardal fwyta / ardal fyw cynllun agored mawr

  • Ystafell wely gyda gwely maint brenin

  • Ystafell gawod

  • Ardal eistedd ar wahân ynghyd â phwll tân

a lounge area with kitchen and dining space
a lounge area with kitchen and dining space

Bwthyn rhamantus i 2 ar gyfer gwyliau cysurus

Yn swatio ym Mynyddoedd ysblennydd Cambria, mae ein Cwt Mochyn arobryn yn cynnig encil hamddenol i gyplau, ffrindiau ac anturiaethwyr.

Mae'r ysgubor Fictoraidd hon sydd wedi'i hadnewyddu yn ofalus yn addo dihangfa wledig fythgofiadwy, 12 milltir yn unig i'r gogledd o Gaerfyrddin.

Ydych chi’n barod i ddianc rhag eich bywyd bob dydd drwy ddod i aros yn Ne Cymru? Darganfyddwch wyliau hamddenol i gyplau a chewch greu atgofion a fydd yn para am oes yn Y Cwt Mochyn.

Y tu mewn i'n bwthyn cyfeillgar i gŵn gyda phwll tân

Mae ein gofod sydd wedi'i ddylunio'n ofalus yn sicrhau cydbwysedd perffaith rhwng cysur cyfoes a chymeriad traddodiadol. Mae'r bwthyn gwyliau hwn sy'n gyfeillgar i gŵn yn cynnig pwll tân, cegin ag offer llawn ynghyd â phopeth y bydd ei angen arnoch: hob ‘induction’, ffwrn, oergell, microdon, peiriant golchi llestri, tegell a thostiwr. Bydd pecyn croeso heb ei ail yn aros amdanoch, gan eich galluogi i ymgartrefu ac ymlacio.

Ymlaciwch ar y soffa gyfforddus, mwynhewch bryd rhamantus wrth y bwrdd bwyta, neu ymlaciwch wrth wylio Freesat neu Disney + ar y teledu. Mae detholiad o gemau bwrdd yn ychwanegu ychydig o adloniant chwareus ar gyfer y nosweithiau clyd hynny i mewn.

Gweithio o bell a chysylltedd

Ydych chi’n gweithio o bell? Mae ein hystafell wely yn cynnwys man gwaith pwrpasol gyda phwyntiau pŵer a Wi-Fi 4G dibynadwy ymhob rhan o’r eiddo. Mae'r rhan fwyaf o rwydweithiau symudol yn cynnig cysylltedd da, gan sicrhau eich bod yn aros yn gysylltiedig wrth fwynhau'r amgylchedd tawel.

Ystafell wely ac ystafell ymolchi cyfforddus

Cewch orffwyso yn ein gwely maint brenin moethus gyda 2000 o sbringiau a llenwadau naturiol. Darperir dillad gwely o ansawdd uchel a fydd yn sicrhau noson wych o gwsg. Ymlaciwch wrth fwynhau’r gawod fawr y gallwch gerdded i mewn iddi, lle cewch gyflenwad di ben draw o ddŵr poeth. Mae tywelion o ansawdd uchel a nwyddau ymolchi o’r radd flaenaf wedi'u darparu i chi eu mwynhau.

Cyfeillgar i gŵn

Chwilio am fythynnod munud olaf sy'n gyfeillgar i gŵn? Mae croeso i ffrindiau pedair coes! Dewch â'ch dillad gwely, tywelion a bowlenni eich hun. Sylwer: rhaid i anifeiliaid anwes aros ar dennyn ac ni chaniateir iddynt fod ar ddodrefn. Mae mannau storio esgidiau ac offer cyfleus, gan gynnwys bachau ac ardal sychu yn yr ysgubor, yn gwneud anturiaethau mwdlyd yn ddidrafferth iawn.

Mannau awyr agored a chrwydro

Mwynhewch eich ardal batio unigryw, sy’n edrych dros y dyffryn hardd, ynghyd â phwll tân a seddi cyfforddus, perffaith ar gyfer syllu ar y sêr o dan awyr dywyll a chlir. Archwiliwch bum erw o dir ffrwythlon, sy'n cynnwys nant sy'n llifo'n gyflym, man eistedd tawel ar lan yr afon, a chaeau agored. Mae llwybr cyhoeddus nad yw prin yn cael ei ddefnyddio yn arwain at fynydd Llanllwni a Choedwig Brechfa.

Bydd beicwyr a cherddwyr yn gwerthfawrogi’r cyfleusterau ar y safle fel storio gêr, gorsaf golchi beiciau, ac ardal sychu ar gyfer dillad awyr agored.

a brightly lit shower room with colourful tiles